‘Fel Teulu Duw, rydym yn byw, yn caru ac yn dysgu yn hapus gyda'n gilydd, gan wneud ein gorau glas ym mhopeth a wnawn.
Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd yn Ysgol y Bendigaid William Davies i ysbrydoli ac annog ein disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol sy'n barod i fod yn ddinasyddion o Gymru a'r byd. Dyma’r geiriau pwysig a oedd yn codi amlaf pan ofynnwyd i'n holl randdeiliaid ddisgrifio gweledigaeth a gwerthoedd ein hysgol.
Cariad, Cynhwysiant, Teulu, Diogelwch, Hapusrwydd, Cefnogaeth, Ffydd, Amynedd, Cymuned, Uchelgais, Creadigrwydd, Gonestrwydd.
Mae ein hysgol yn Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir, wedi ei lleoli ar Bodnant Crescent, yn nhref lan môr hardd Llandudno. Gallwn groesi’r ffordd i Fynydd Cwm ac rydym ni dafliad carreg i ffwrdd o bromenâd Llandudno. Mae ‘Dydd Mercher Lles’ yn rhan o'n dysgu awyr agored, sy'n agwedd hanfodol ar ein cwricwlwm. Rydyn yn disgwyl ac yn annog rhagoriaeth ym mhob agwedd o'r ysgol, a’n bwriad yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill. Mae bywyd yn ein hysgol yn seiliedig ar Werthoedd Cristnogol, ac rydym yn cydnabod ac yn ymateb i anghenion pob plentyn. Rydym yn ymateb i'w hanghenion academaidd a hefyd i ddatblygiad y plentyn cyfan. Rydym yn datblygu plant hapus, bodlon, addysgedig a hyderus mewn amgylchedd gofalgar, disgybledig gyda'n Ffydd yn ganolbwynt i’n gweithredoedd. Mae'n fraint gweld ein plant yn tyfu ac yn aeddfedu yn ystod eu hamser gyda ni, wedi eu meithrin mewn partneriaeth rhwng y cartref, yr ysgol a’r plwyf. Rydym yn ceisio ac yn annog ein teuluoedd a’r gymuned ehangach i gymryd rhan yn y broses ddysgu, ac ym mywyd ein hysgol. Rydym yn croesawu rhieni a gofalwyr fel partneriaid yn addysg eu plant ac yn natblygiad teulu ehangach ein hysgol.
